GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheolaethau Cyfraith Bwyd Cyffredinol (Diwygiadau ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
|
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 18 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dd/B |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol i'r DU gyfan, yn gwneud cyfres o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â diogelwch bwyd. Mae'r diwygiadau yn cywiro diffygion mewn cyfraith yr UE a gedwir er mwyn sicrhau bod y drefn hon yn gweithredu'n effeithiol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, ac er mwyn sicrhau bod fframwaith deddfwriaethol yn cael ei gynnal pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb Gytundeb Ymadael.
Mae’r Rheoliadau:
Yn benodol mewn perthynas â Chymru, mae'r Rheoliadau yn trosglwyddo cyfrifoldebau sydd ar hyn o bryd yn rhan o ddyletswyddau'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (y corff sy'n darparu cyngor gwyddonol ar fwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd, i Senedd Ewrop ac i Aelod-wladwriaethau'r UE) i'r Asiantaeth Safonau Bwyd, ac yn trosglwyddo cyfrifoldebau sy'n rhan o ddyletswyddau'r Comisiwn Ewropeaidd i Weinidogion Cymru.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 4 Chwefror 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
[Mae'r Pwyllgor yn croesawu eglurder datganiad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y Rheoliadau hyn ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, a'i ddefnyddioldeb o ran gwaith craffu'r Pwyllgor]. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|